Hanes

Cartref Côr Godre’r Aran yw pentref Llanuwchllyn wrth droed mynydd yr Aran ac heb fod nepell o lannau Llyn Tegid yn ardal Meirionnydd, Gwynedd. Golygfa odidog yw’r un a gawn wrth edrych tua’r gorllewin dros ddyfroedd y Llyn o dref Y Bala. Dyma ardal sy’n gyfoethog mewn hanes a thraddodiad; “gwlad beirdd a llenorion, uchelwyr o fri...” a rhoddwyd lle teilwng i ganu a cherddoriaeth ar ei haelwydydd gydol y canrifoedd. Llwyddodd yr ardal i gynnal a chadw’i chymeriad a’i diwylliant cadarn Cymreig a’i drosglwyddo i’r Gymru fodern. Mae’r Côr yn cynrychioli ystod eang o swyddi a galwedigaethau cefn gwlad a’i aelodau oll yn Gymry Cymraeg cynhennid.

 

Llun o'r côr yn y Tabernacl, Machynlleth
Y côr yn y Tabernacl, Machynlleth gyda Diana Palmerston (soprano) ac Amir Bisengaliev (ffidil)

Sefydlwyd Côr Godre’r Aran yn 1949 fel parti cystadleuol ar achlysur ymweliad yr Eisteddfod Genedlaethol a thref Dolgellau. Yr adeg honno Canu Penillion neu Gerdd Dant i gyfeiliant y delyn dan arweiniad y diweddar Tom Jones oedd prif faes eu diddordeb. Yna’n raddol dan arweiniad Eirian Owen ei olynydd newidiwyd y cwrs yn raddol, cynyddodd yr aelodaeth ac ehangwyd y rhaglen i gynnwys gweithiau clasurol, crefyddol ac operatig yn ogystal a threfniannau o ganeuon cyfoes Cymreig a chaneuon poblogaidd o sawl gwlad.

Ers ei sefydlu bu’r Côr yn cynnal cyngherddau mewn capeli, eglwysi, neuaddau trefol a gwledig ledled Cymru a sawl canolfan nodedig yn Lloegr fel Neuadd Albert, Theatr y Globe a Neuadd Symffoni, Birmingham. Cafwyd sawl taith gyngerdd i’r Alban, Iwerddon a Phortiwgal a theithiau hir rhyngwladol i U.D.A. a Chanada deirgwaith, wyth taith i Awstralia gan gynnwys ymweliadau i Seland Newydd, Hong Kong, Singapore a Thasmania. Yn Nhachwedd 2007 ymwelwd am yr eildro a’r “Wladfa” ym Mhatagonia, Ariannin 30 mlynedd wedi’r ymweliad cyntaf yn 1977. Bu’r cyfan yn brofiad bythgofiadwy i’r aelodau.

Dros y blynyddoedd bu Côr Godre’r Aran yn cystadlu’n llwyddiannus ar lefel genedlaethol a rhyng-genedlaethol gan ennill prif-wobrau cystadleuthau corau meibion yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru ac Eisteddfod Ryng-genedlaethol, Llangollen. Yn 2005 enillodd y Côr gystadleuaeth BBC Radio Cymru i gorau meibion.

Neuadd Dyfi, Aberdyfi gyda Rebecca Evans – Ionawr 2010
Neuadd Dyfi, Aberdyfi gyda Rebecca Evans – Ionawr 2010