Llun o Eirian Owen - Cyfarwyddwr cerdd
Eirian Owen

Magwyd Eirian Owen ym mro wledig Llanuwchllyn. Sylweddolwyd yn gynnar iawn yn ei bywyd fod ganddi ddawn gerddorol naturiol. Meistrolodd chwarae’r piano’n ifanc iawn ac un o’i phrif ddifyrrion ar aelwyd ei chartref yn y Wern Ddu oedd cyfeilio i gantorion lleol ddeuai heibio ar ymweliad. Gwnai hyn cyn bod yn ddeg oed. Nid rhyfedd felly iddi ddatblygu ei dawn i’r eithaf. Astudiod gerddoriaeth ymysg ei phynciau Lefel A yn Ysgol y Berwyn Y Bala a disgleiriodd yn ei chwrs ym Mhrifysgol Cymru, Bangor lle graddiodd gydag anrhydedd dosbarth cyntaf. Enillodd gymwysterau pellach – diploma ARCM mewn cyfeilio a diploma ol-radd gan Brifysgol Manceinion. Dechreuodd ei gyrfa fel pennaeth adran gerddoriaeth Ysgol y Gader, Dolgellau cyn ei hapwyntio yn gyfeilydd staff yn Ysgol Gerdd enwog Chethams, Manceinion lle gwasanaethodd am ugain mlynedd yn cyfeilio a hyfforddi piano i genedlaethau o ddisgyblion dawnus. Ar hyd y cyfnod hwnnw bu’n hyfforddi piano a llais yn ei chartref yn Nolgellau a datblygodd nifer o’i myfyrwyr yn bianyddion, cyfeilyddion ac unawdwyr cydnabyddedig. Daeth ei chysylltiad swyddogol cyntaf a Chor Godre’r Aran yn sgil ei phenodi’n gyfeilydd yn 1970 a hollol naturiol fu ei dewis yn arweinydd a chyfarwyddwr y Cor i olynu Tom Jones yn 1975. Dros y blynyddoedd neilltuodd oriau filoedd yn wirfoddol i’r Cor a thrwy ei dylanwad a’i llafur y daeth llwyddiant i’w ran.

Yn naturiol arweiniodd dawn Eirian fel cyfeilydd i lu o alwadau yn lleol a chenedlaethol iddi weithredu fel cyfeilydd i unawdwyr mewn cyngherddau, eisteddfodau a gwyliau cerddorol o safon. Gwasanaethodd lawer blwyddyn bellach fel un o gyfeilyddion swyddogol Eisteddfod Genedlaethol Cymru ac Eisteddfod Ryng-Genedlaethol Llangollen. Mae wedi cyfeilio i fwyafrif unawdwyr nodedig cyfoes Cymru sy’n ymddangos ar lwyfannau opera byd-enwog.

Yn Eisteddfod Genedlaethol 1999 urddwyd Eirian yn Dderwydd Anrhydeddus yng Ngorsedd Beirdd Ynys Prydain. Ynys Prydain. Yn yr un Wyl gweithredodd fel aelod o banel beirniaid y cystadleuthau corawl ac wedyn yn 2005. Yn Ionawr 2005 dyfarnwyd iddi radd MA er Anrhydedd gan Brifysgol Cymru fel cydnabyddiaeth o’i gwasanaeth eithriadol i gerddoriaeth yng Nghymru.